Mae’r lleoedd yn ein hofferyn wedi cael eu diffinio gan ddefnyddio daearyddiaeth Ardal Adeiledig y SYG. Mae hyn yn golygu bod gennym ymagwedd gyson ledled Cymru ac yn gadael i ni uchafu’r data y cawn ei ddangos yn yr offeryn. Fodd bynnag, mae ymagwedd o’r fath yn golygu y bydd rhai ‘lleoedd’ nad ydynt efallai yn cael eu cydnabod yn eang fel y cyfryw.
Mae data’r Cyfrifiad am Ardaloedd Adeiledig yng Nghymru a Lloegr, a oedd yn cael eu galw’n ‘ardaloedd trefol’ o’r blaen, wedi cael ei gynhyrchu bob 10 mlynedd ers 1981. Mae’r SYG yn diffinio ardaloedd adeiledig fel ‘tir sy’n anwrthdroadwy’n drefol ei gymeriad’, sy’n golygu eu bod yn nodwedd tref neu ddinas. Mae rhagor o wybodaeth am y fethodoleg a ddefnyddiwyd i ddiffinio Ardaloedd Adeiledig gan gynnwys israniadau ardaloedd adeiledig ar gael yma (Saesneg yn unig).
Adeg y Cyfrifiad yn 2011, roedd 95% o boblogaeth breswyl Cymru a Lloegr yn byw mewn Ardaloedd Adeiledig, a phoblogaeth leiaf Ardal Adeiledig oedd ychydig dros 100, a’r fwyaf yn bron i 9.8 miliwn. Y ffigur i Gymru oedd 89% o’r boblogaeth breswyl.
Mae data’r Cyfrifiad am Ardaloedd Adeiledig yn cael ei ddarparu ar sail ffit orau ardal gynnyrch y Cyfrifiad. Mae hyn yn golygu bod ffigurau’n cael eu cyfuno i fyny o ardaloedd cynnyrch cyfan yn ôl y ffit orau i’r ardaloedd, yn hytrach na’r ffigur gwirioneddol am yr ardal ei hunan. O ganlyniad, mae amcangyfrifon ffit orau am ardaloedd â phoblogaeth o fwy na 1,500 o bobl yn debygol o fod yn fwy dibynadwy na’r amcangyfrifon am ardaloedd llai o faint.
Mae’r SYG yn awgrymu “bod angen bod yn ofalus wrth ddefnyddio ystadegau am ardaloedd ac israniadau â phoblogaeth o lai na 1,500 o bobl”. Fodd bynnag, daw rhywfaint o’r data rydym yn dymuno ei ddefnyddio o ddata lefel Ardal Gynnyrch Ehangach Is (LSOA) (yn hytrach na chyfuniadau o ddata lefel gynnyrch). Gan hynny, rydym wedi gyfyngu’r offeryn, i leoedd â phoblogaeth yn ôl y Cyfrifiad o 2,000 neu fwy. O ganlyniad, mae’n bosibl y bydd rhai aneddiadau bach y byddai defnyddwyr yn disgwyl eu gweld yn absennol yn ein hofferyn ni. Mae rhagor o wybodaeth oddi wrth Lywodraeth Cymru am ‘Best fit of
Lower Super Output Areas to Built Up Areas’ ar gael yma (Saesneg yn unig).